Mae'r Cwpan Celtaidd yn gyfle euraidd i chwaraewyr ifanc Gleision Caerdydd, yn ôl Max Llewellyn.
Bydd Llewellyn, sydd wedi cynrychioli Cymru dan 20, yn cychwyn am y tro cyntaf i dîm Gleision Caerdydd A, wrth iddyn nhw baratoi i herio Leinster A yn Nulyn prynhawn Sadwrn (C.G 1.30 y.h)
Yn ymuno â Llewellyn ymysg y cefnwyr mae chwaraewyr rhanbarthol profiadol fel Steven Shingler, Lewis Jones, Tom James a Dan Fish.
Mae'r cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf yn gyffrous i gael dysgu gan chwaraewyr profiadol y garfan, ac yn gobeithio gall ei berfformiadau greu argraff ar hyfforddwyr tîm cyntaf Gleision Caerdydd.
“Mae’r gystadleuaeth yma yn rhoi ysbrydoliaeth i mi. Mae’n siawns i chwaraewyr ifanc fel fi i wneud argraff ar hyfforddwyr y tîm cyntaf. Mae’n gyfle mawr i mi," meddai Llywellyn.
"Dwi’n ceisio dysgu trwy’r amser. Mae’r chwaraewyr profiadol yn y garfan yn dweud wrtha i beth i wneud a rwy’n ceisio cymryd popeth i mewn er mwyn gwneud fy hun yn well ar y cae.
"Mae’r hyfforddwyr fel Richie Rees, Gethin Jenkins, T Rhys Thomas wedi cael gyrfaoedd gwych fel chwaraewyr a wedi cyflawni lot yn y gêm.
"Mae ganddyn nhw’r gwybodaeth am y gêm, a mae hynny’n berffaith i basio ymlaen i’r chwaraewyr ifanc, felly fi’n ceisio dysgu ganddyn nhw hefyd.
"Y gobeithio am gweddill y tymor yw cario ymlaen i chwarae a gwthio fy ffordd i mewn i ymarfer neu hyd yn oed chwarae gyda’r tîm cyntaf.
"Oni’n gyffrous pan ddaeth y newyddion am y gystadleuaeth yma mas. Mae am fod yn gam lan o’r cystadleuthau sydd wedi bod ar gael dros y blynyddoedd diwethaf, a man wych i gael chwaraewyr fel Steven Shingler yn rhan o’r tîm, sydd yn rhoi cyfle i mi ddysgu mwy a mwy."
Yn dilyn buddugoliaeth, a phwynt bonws, yn erbyn y Dreigiau wythnos diwethaf, mae Llywellyn yn credu gall ei dîm deithio i brifddinas Iwerddon gyda hyder, ond mae'n ymwybodol o'r sialens sydd o'u blaenau ym Mharc Energia.
"Roeddwn i’n hapus iawn i gael amser ar y cae, o'r fainc, wythnos diwethaf yn erbyn y Dreigiau, a roeddwn yn teimlo mod i wedi cael amser digon teg i gael effaith ar y gêm.
"Roedd y tîm ar dân yn mynd i mewn i’r gêm wythnos diwethaf, a felly roedd pawb yn hapus gyda’r canlyniad ar y diwedd.
"Ni’n disgwyl bydd gan Leinster flaenwyr cryf, felly mae’n rhaid gwneud yn siwr ein bod ni’n cyfateb hynny.
"Mae pawb yn gyffrous ar ôl canlyniad wythnos diwethaf, a ni’n edrych ymlaen ar gyfer sialens arall yn Nulyn.
"Pan chi’n edrych ar y chwaraewyr sydd ‘da ni, mae pawb yn credu bod ‘da ni gyfle i gyrraedd y rownd derfynol.
"Mae pawb yn gweithio’n galed ac yn benderfynol i ddangos bod hynny yn cael effaith ar y cae."
Bydd y Cwpan Celtaidd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar Barc yr Arfau wythnos nesaf, wrth i Gleision Caerdydd A groesawu Ulster A i'r brifddinas brynhawn Sadwrn, Medi 22. Bydd tocynnau ar werth ar wefan Gleision Caerdydd o ddydd Llun, a mae mynediad wedi cael ei gynnwys yn rhan o becyn Aelodaeth Tymor 2018/19.