Roedd Ioan Davies wrth ei fodd ar ôl iddo groesi'r llinell gais ar ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf yn lliwiau Gleision Caerdydd.
Roedd cais Davies yn un o saith i dîm John Mulvihill nos Fawrth, wrth iddyn nhw drechu Wrwgwai yn Her Rhyngwladol Syft.
Munudau wedi iddo gael ei gyflwyno i’r maes, derbyniodd y cefnwr gic gan Dan Fish, cyn camu heibio dau amddiffynwr i groesi’r llinell gais.
Roedd Davies yn hapus i gael cyfle i wneud marc ar hyfforddwyr tîm cyntaf Gleision Caerdydd, a roedd yn teimlo fod y chwaraewyr ifanc wedi chwarae rôl pwysig yn y fuddugoliaeth.
“Roeddwn i’n hapus iawn gyda’r cais. Roedd hi’n gic dda gan Dan Fish a yr holl oedd rhaid i fi wneud oedd gorffen e, felly fi’n hapus iawn.
“Fi’n siwr bod Fishy yn hapus iawn o gyrraedd 100 y ymddangosiadau dros y rhanbarth.
“Mae e wedi cael gyrfa gwych gyda Gleision Caerdydd a mae e wedi haeddu’r carreg filltir yma.
“Fel tîm gallwn ni fod yn hapus iawn. Roedd hi’n gêm galed, oherwydd roedd ‘da nhw gêm pwerus.
“Fi’n credu bod ni wedi delio gyda huna yn dda er mwyn dod i ffwrdd gyda’r fuddugoliaeth.
“Roedd nifer o fois ifanc yn chwarae, a wedi llwyddo i roi perfformiad da, felly gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i blesio’r tîm hyfforddi.
“Roeddem ni’n disgwyl chwaraewyr mawr a chryf gan Wrwgwai, ond rhai sydd hefyd yn gallu chwarae gyda tempo.
“Roedd rhaid i ni baratoi am hynny, a ffeindio ffyrdd i fynd o amgylch hynny er mwyn cael y fuddugoliaeth.
“Fi’n hapus i barhau i wneud beth mae’r hyfforddwyr yn gofyn i mi wneud a roeddwn i’n hapus iawn i gael y cyfle yn erbyn Wrwgwai.
“Tydi cyfleuon fel hyn ddim yn dod lan yn aml, felly fi wrth fy modd i gael y profiad i ddweud y gwir.”