Mae Macauley Cook wedi galw ar dorf Parc yr Arfau Caerdydd i wneud y gwahaniaeth nos Wener, wrth i Gleision Caerdydd baratoi i groesawu Munster i'r brifddinas. (C.G 7.35yh)
Os caiff Cook ei alw o’r fainc, mi fydd y blaenwr o Dreorci yn dathlu 150 o ymddangosiadau dros ei ranbarth.
Mae tîm John Mulvihill wedi colli eu tair gêm gystadleuol hyd yn hyn, gyda Leinster, Benetton a Zebre yn sicrhau buddugoliaeth yn y munudau olaf yn ystod y gemau agoriadol.
Mae Cook yn mynnu bod ei dîm wedi dysgu eu gwers ac yn benderfynol o ymateb yn bositif yn erbyn Munster.
“Roeddwn i yno i wylio’r gêm yn erbyn Leinster a roedd y dorf yn ardderchog. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr pan mae’r dorf yn canu a chi’n gallu clywed hynny yn ystod y gêm,” meddai Cook.
“Mae’n rhoi hyder i’r bois a gobeithio gallwn ni cael torf mawr yn erbyn Munster a ni eisiau rhoi’r perfformiad iddyn nhw.
“Ni’n gwybod beth fydd Munster yn gynnig i’r gêm. Mae eu blaenwyr nhw wastad yn cario yn galed, mae nhw’n uniongyrchol a ma’ bach o gyflymder yn y cefnwyr.
“Felly ni’n gwybod beth sydd ‘da nhw i’w gynnig ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein gêm ni.
“Ni’n siomedig gyda’r canlyniadau mas yn yr Eidal, ond ni’n gyffrous oherwydd yn rygbi chi wastad gyda’r siawns i wneud pethe’n iawn yr wythnos nesaf.
“Ni’n gwybod beth ni’n gorfod gwneud a ni’n gorfod edrych ymlaen i’r dyfodol, ac yn enwedig i’r gêm yn erbyn Munster.
“Mae’n gêm enfawr i ni a ni angen rhoi’r perfformiad mewn, dyna’r oll ni’n gofyn gan y bois, a gobeithio fydd y canlyniad yn dilyn.
“Ni wedi edrych ar ein hunain wythnos yma, i fod yn onest. Beth ni wedi gwneud yn anghywir yn y gemau diwethaf. Ni’n gwybod bod ‘da ni’r gallu i ennill y gemau hyn.”
Mae Cook hefyd yn dweud byddai dod ymlaen i ddathlu 150 o ymddangosiadau dros y Gleision yn foment bach iawn iddo ef a’i deulu, ond mae ei ffocws ar sicrhau’r canlyniad.
“Bydda i a’r teulu yn falch iawn o’r garreg filltir. Fi’n gyffrous am y gêm ac yn edrych ymlaen i allu rhoi pethau yn iawn ar ôl wythnos diwethaf.
“Fi’n hapus iawn i gyrraedd y 150. Pan oeddwn i’n dechrau gyda’r rhanbarth, roeddwn i’n edrych lan at y bois oedd wedi chwarae lot o gemau - fel Deiniol Jones a T Rhys Thomas.
“Wrth gwrs fi’n prowd iawn, mae’r teulu yn prowd iawn ond y peth pwysicaf yw i ennill y gêm a rhoi’r perfformiad i mewn i gael y canlyniad.”