Talodd Josh Adams deyrnged i gymeriad Gleision Caerdydd, wrth iddynt orffen y tymor gyda buddugoliaeth yn erbyn y Gweilch dros y penwythnos.
Ar ôl colli i’r Scarlets wythnos diwethaf, fe wnaeth tîm John Mulvihill ymateb gyda buddugoliaeth o 29-20 yng Nghasnewydd. Ar ôl creu’r cais agoriadol i Jason Harries, croesodd Adams am ei seithfed cais mewn wyth gêm dros y rhanbarth.
Mae’r asgellwr yn hapus fod ei dîm wedi profi pwynt yn erbyn carfan profiadol y Gweilch, gan ganmol gwaith caled y blaenwr, wnaeth osod y platfform i’r cefnwyr ymosod.
“Oedd y fuddugoliaeth a’r perfformiad yn bwysig iawn,” meddai Adams.
“O’n ni’n siomedig ar ôl y gêm wythnos diwethaf yn erbyn y Scarlets ac oedd y perfformiad dydd Sul lot gwell.
“Oedd y pac yn arbennig, a nhw wnaeth y damage. Oedd e’n eithaf hawdd i ni fel cefnwyr i reoli’r gêm. Oedd e’n berfformiad gwych.
“Roedd hi’n wythnos onest, ac o’n ni wedi edrych yn ôl ar y gêm yn erbyn y Scarlets, a doedd ein amddiffyn ddim yn dangos beth ni amdano fel Gleision Caerdydd.
“Ond oedd e’n neis i weld beth oedd wedi cael ei ymarfer yn yr wythnos yn cael ei gario i’r gêm. Oedd popeth o’n ni wedi gwneud yn yr wythnos ar y cae dydd Sul, a oedd hynny’n dda.
“Roedd e’n neis i gael cais fach. Roedd hynny’n rhywbeth o’n ni wedi edrych arno yn yr wythnos - roedd lot o le yn y backfield i ni - a roedd e’n gic arbennig gan Jase.
“Ond fi yn hapus i fod yn ôl ar y cae yn gyffredinol a cael chwarae rygbi eto.”
Roedd 13 newid i dîm John Mulvihill ar gyfer yr ornest, gyda chwaraewyr ifanc fel Ioan Davies, James Botham a Max Llewellyn yn cael cyfle i greu argraff.
Gyda Gleision Caerdydd yn sicrhau’r dwbl dros y Gweilch am y tro cyntaf ers 2006, roedd y fuddugoliaeth wedi coroni tymor arbennig i Adams, ar lefel rhanbarthol a rhyngwladol, wrth i'r gwr o'r Hendy sefydlu ei hun ymhlith asgellwyr gorau’r byd.
Roedd e’n falch i weld y chwaraewyr ifanc yn cymryd eu cyfle yn erbyn tîm profiadol y Gweilch, ond mae ei feddwl nawr yn troi ar tymor nesaf, gyda ychydig dros fis tan mae disgwyl i’r Guinness PRO14 ail-gychwyn.
Ychwanegodd Adams: “Roedd e’n rili da i weld y bois ifanc yn cael cyfle.
“Fi’n credu fod pawb wnaeth chwarae wedi perfformio yn arbennig o dda a roedd e’n grêt i weld rhywun fel Ioan yn cael 20 munud ar y diwedd.
“Wnaeth e’n wych o’r fainc.
“Ond roedd e’n neis i gael newid i’r tîm o wythnos diwethaf ac i bawb gael cyfle i chwarae rhywfaint o funudau.
“Mae wythnos bant gyda ni nawr, a cyfle i gael bach o R&R.
“Felly traed lawr i fi am wythnos a wedyn yn ôl ati am tri neu bedwar wythnos cyn mynd yn ôl i mewn i’r tymor nesaf.
“Fi’n credu, ar ôl heno, fod pawb yn edrych ymlaen ar gyfer tymor nesaf nawr.”